Cynhyrchion

GALLWCH CHI LAWRLWYTHO PECYN APIAU COVID-19: ANFON CYMORTH YMA

Mae’r pecyn yn cynnwys COVID-19: Cadw’n Ddiogel, sy’n edrych ar orchuddion wyneb, golchi dwylo, hylifau diheintio dwylo a chadw arwynebau’n lân, ynghyd â chanllawiau cyffredinol; COVID-19: Pellter Cymdeithasol, sy’n edrych ar gysyniadau cadw pellter cymdeithasol, swigod cefnogaeth ac ati a COVID-19: Hapus ac Iach sy’n cynnig cefnogaeth i gadw’n iach eich corff a’ch meddwl yn ystod y pandemig Covid-19 a thu hwnt.

Bydd prynu’r apiau hyn yn ein helpu i ailfuddsoddi mewn creu rhagor o apiau i helpu i gefnogi a gwella bywydau pobl agored i niwed.

Covid-19: Cadw’n Ddiogel - Covid-19: Pellter Cymdeithasol - Covid-19: Hapus ac Iach

Mae Starfish Labs wedi datblygu cyfres o apiau i helpu pobl sydd ag anawsterau dysgu ac anableddau i ddeall y newidiadau yn y gymdeithas ac yn y cyfarwyddyd oherwydd y pandemig. Mae gwaith datblygu’r apiau wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru, ac mae’r cynnwys ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’r cynnwys AAAA a Makaton® wedi’i ddatblygu ar y cyd â Choleg Derwen, sef coleg Anghenion Addysgol Arbennig yn y DU sy’n Rhagorol yn ôl adroddiad Ofsted, ac mae’r canllawiau ar gadw’n iach wedi’u datblygu gan Feddyg Teulu’r GIG sy’n Hyrwyddwr Iechyd Cyhoeddus.
 
Yn Covid-19: Cadw’n Ddiogel ceir canllawiau wedi’u symleiddio ar ‘Beth ydy Coronafeirws neu Covid-19’, gwahanol fathau o orchuddion i’r wyneb a sut i’w gwisgo’n gywir, sut i ofalu am eich masg, pryd a sut i olchi’ch dwylo a defnyddio hylif diheintio dwylo yn unol â chanllawiau’r GIG a Llywodraeth y DU, ac awgrymiadau i helpu defnyddwyr i gadw arwynebau a’u cartref yn lân ac wedi’u diheintio.
 
Mae Covid-19: Pellter Cymdeithasol yn cyflwyno’r canllawiau ar ‘Gadw Pellter Cymdeithasol’ a ‘Swigod Cefnogaeth’ a beth i’w ddisgwyl wrth godi allan, mewn siopau neu yn yr awyr agored, yn unol â chanllawiau’r GIG a Llywodraeth y DU, a phrociau i’r cof i helpu defnyddwyr i gofio gwisgo gorchudd wyneb, sut i ymddwyn ymhlith y cyhoedd yn ystod y pandemig, a sut i gadw arwynebau a’u cartref yn lân ac wedi’u diheintio.
 
Mae yna lawer o bobl sydd ag AAAA sydd ddim yn uniaethu â chyfarwyddyd generig ynglŷn â rheoliadau Covid-19.
 
Mae’r apiau uchod yn datrys y broblem honno trwy ganiatáu i ofalwr, athro, rhiant neu ddefnyddiwr ‘gweinyddol’ arall greu eich cynnwys eich hun sy’n berthnasol i anghenion y defnyddiwr a lefel ei (d)dealltwriaeth. Gallwch chi lanlwytho camau unigol i dywys defnyddwyr mewn unrhyw agwedd ar fywyd yn ystod y pandemig, i’w hesbonio mewn ffordd syml. Er enghraifft, gallwch chi ddefnyddio ffotograffau neu fideos o’u math nhw o fasgiau, amgylchedd cyfarwydd ac ardaloedd lleol, gyda chynnwys ysgrifenedig neu lafar ar lefel y byddan nhw’n ei deall, er mwyn sicrhau bod y canllawiau a’r pwyntiau allweddol ynglŷn â’u sefyllfa eu hunain a chyfnodau clo a chanllawiau rhanbarthol yn diwallu eu hanghenion personol nhw.
 
Mae Covid-19: Hapus ac Iach yn cyflwyno syniadau i gadw’n iach eich corff a’ch meddwl yn ystod y pandemig a thu hwnt. 

Sut mae’n gweithio: 

Mewngofnodi:

Pan fyddwch chi’n agor yr ap am y tro cyntaf gallwch chi nodi’ch dewis iaith a bydd gofyn ichi dderbyn yr amodau a’r telerau ar gyfer defnyddio’r ap.

 

Yna bydd gofyn ichi gofrestru cyfrif defnyddiwr ‘gweinyddol’ â’r cyfeiriad e-bost a chyfrinair.

 

 

Ardal y defnyddiwr gweinyddol ydy’r lle y byddwch chi’n gallu creu eich canllawiau personol eich hun neu newid opsiynau iaith trwy wasgu eicon y cocsyn ‘gosodiadau’. Pan fyddwch chi’n allgofnodi, dim ond y cynnwys generig a’r cynnwys rydych chi wedi’i greu y bydd y defnyddiwr yn eu gweld. Os ydych chi’n creu’r canllawiau i’ch atgoffa eich hun, byddwch chi dal yn gallu cyrchu popeth pan fyddwch chi wedi mewngofnodi.

 

Gweld cynnwys generig:

Pan fyddwch chi’n agor yr ap, byddwch chi’n gweld sgrin o ‘deils tasgau’. Gallwch chi ddewis maes rydych chi eisiau dysgu amdano trwy wasgu’r teils hyn.

 

 

Yna, gallwch chi ddewis gweld delweddau, fideos, lluniau cartŵn o’r cynnwys generig neu’r cynnwys personol rydych chi wedi’i greu nad yw’n rhan o’r meysydd generig dan ‘Fy nghynnwys i’.

 

 

Mae gan y sgrin hon hefyd ddolenni i’r canllawiau diweddaraf oddi wrth Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Senedd yr Alban a Llywodraeth Gogledd Iwerddon.

 

Yna, gallwch chi weld y camau ar gyfer pob adran tasg, sy’n cynnwys y cyfrwng rydych chi wedi’i ddewis, lluniau cartŵn, ffotograffau neu fideo, gyda symbolau Makaton a disgrifiadau testun ar gyfer pob cam, fel isod:

 

 

Gallwch chi hefyd glywed disgrifiad llais llafar ar gyfer pob cam trwy wasgu’r eicon seinydd.

 

Ar ddiwedd pob adran tasg byddwch chi’n gweld y sgrin hon. Gallwch chi ddewis gweld yr adran eto, dewis cyfrwng gwahanol (ffotograffau, fideo ac ati) neu fynd yn ôl i’r brif ddewislen.

 

Creu eich cynnwys eich hun at gyfer meysydd canllawiau cyffredinol:

Pan fyddwch chi wedi mewngofnodi, gallwch chi greu eich cynnwys eich hun trwy daro eicon y cocsyn ‘gosodiadau’ ac yna ‘Rheoli Tasgau’

 

 

Gallwch chi hefyd nodi’ch dewis iaith (mae Cymraeg a Saesneg ar gael ar hyn o bryd) o’r sgrin hon.

Gallwch chi ddewis un o feysydd y cynnwys cyffredinol yn ‘Rheoli Tasgau’ lle y byddwch chi’n gweld y sgrin hon:

 

 

Yna, gallwch chi ddewis un o’r meysydd cyffredinol i greu eich camau tasgau a’ch delweddau eich hun. (Gwelwch yr adran nesaf i greu eich meysydd atgoffa eich hun yn ‘Fy mywyd i’)

 

e.e. i greu eich cynnwys ‘Gwisgo Masg’ eich hun – gwasgwch y teil tasg ‘Gwisgo Masg’.

 

Yna, gallwch chi greu eich camau eich hun ar gyfer ‘Gwisgo Masg’ neu ar gyfer unrhyw rai o’r adrannau eraill:

 

 

Ni allwch chi newid enw’r dasg na’r eicon cartŵn yma, gan eu bod wedi’u dylunio fel eich bod yn gallu creu eich cynnwys eich hun ar gyfer pob adran – e.e. eich masgiau eich hun, golchi dwylo, y drefn ar gyfer glanhau ac ati.

 

Gallwch chi ychwanegu camau gan ddefnyddio’ch ffotograffau, fideo a brawddegau byr o hyd at 6 gair eich hun yn yr adran ‘Ychwanegu camau’.

 

Gallwch chi:

  • ychwanegu cam trwy daro +
  • golygu cam trwy daro’r eicon pensel
  • cael gwared â cham trwy wasgu’r eicon bin ger y cam hwnnw
  • cael gwared â’r gyfres gyfan o gamau trwy daro’r eicon bin mwy ger y +

 

 

Gallwch chi deipio’r testun ar gyfer eich tasg a tharo’r + ‘Ychwanegu Cyfryngau’ i ychwanegu ffotograff neu fideo i ddangos y cam. Gwasgwch yr eicon tic i gadw’r testun neu’r saeth i fynd yn ôl.

 

 

Pan fyddwch chi wedi gorffen creu camau eich tasg, gwasgwch yr eicon disg ger y teitl a bydd eich tasg bersonol wedi’i chadw.

 

Bydd cynnwys eich tasg bersonol yna i’w gweld dan ‘Fy nghynnwys i’ yn y maes perthnasol pan fyddwch chi’n cyrchu ‘Dewis y math o gyfrwng’.

 

 

Creu cynnwys ar gyfer maes ‘Fy mywyd i’:

Gallwch chi greu nifer o dasgau ym maes ‘Fy mywyd i’ a gyrchir o sgrin y brif ddewislen

 

 

Gallai’r rhain fod ar gyfer gwahanol fathau o fasgiau neu orchuddion i’r wyneb, gwahanol ardaloedd yn eich cartref, rheolau a chanllawiau ynglŷn â’r amgylchedd ysgol neu waith, neu wybodaeth am reoliadau lleol a gwahanol lefelau cyfnodau clo neu haenau mewn gwahanol ardaloedd.

 

Gallwch chi olygu a diweddaru’r rhain cynifer o weithiau ag y mynnwch.

 

I greu cynnwys yn adran ‘Fy mywyd i’, ewch i’r sgrin ‘Gosodiadau’ a dewis ‘Rheoli tasgau’

 

 

Yn adran ‘Fy mywyd i’, byddwch chi’n gweld sgrin fel hon:

 

 

I greu atgoffyn neu dasg, tarwch yr eicon +.

 

Mae hwn yn gweithio yn yr un ffordd sydd wedi’i disgrifio uchod ar gyfer creu cynnwys, ond gallwch chi roi unrhyw enwau rydych chi eisiau eu rhoi ar eich atgoffion neu’ch tasgau, ac ychwanegu ffotograff i ddynodi’r dasg neu’r atgoffyn.

 

 

 

Yna, gallwch chi ychwanegu’r camau ar gyfer y dasg â ffotograffau neu fideos a disgrifiadau testun. (Mae’n well torri tasgau i lawr i gamau bach, hawdd i’w dilyn a brawddegau byr).

 

Gallwch chi ychwanegu nifer o atgoffion neu dasgau personol yn adran ‘Fy mywyd i’. Yna, byddwch chi’n gallu cyrchu’r rhain o sgrin y brif ddewislen pan fyddwch chi’n taro ‘Fy mywyd i’.   

 

All generic content, design and user interface © Starfish Labs 2020 All Rights Reserved. Makaton symbols used in the app are used as part of the content developed in collaboration with Derwen College. Makaton symbols are copyright © The Makaton Charity and may not be reproduced without the permission of The Makaton Charity – www.makaton.org

Hwyl fawr yn creu eich cynnwys!